Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Caffael (Cymru) (Diwygio) 2025

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                                     Mae rheoliadau 45E a 45F yn gwneud darpariaeth benodol mewn cysylltiad â chyfrifiadau sydd i’w gwneud o dan baragraffau 2 a 3 o Atodlen 2 i Ddeddf Caffael 2023 (“Deddf 2023”). Nid yw Llywodraeth Cymru yn cytuno bod unrhyw amwysedd gan ei bod yn eglur bod y diffiniad o “dyddiad dyfarnu’r contract” yn gymwys i reoliadau 45E a 45F ill dau’n unig. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio gwneud diwygiad mewn set o reoliadau yn y dyfodol, yn gynnar yn 2026, i egluro’r diffiniadau yn rheoliadau 45A i D sydd eisoes wedi eu gwneud.

Pwynt Craffu Technegol 2:                                     Er bod Llywodraeth Cymru yn nodi bod cysylltiad rhwng rheoliadau 45E a 45F a’r rheoliadau 45A-D presennol, nid ydym yn credu bod defnyddio’r geiriad “dechrau â”, yn hytrach na “dechrau o”, yn awgrymu unrhyw wahaniaeth yn y dehongliad gan fod y ddau wedi eu goleddfu’n eglur gan y geiriau dilynol “dyddiad dyfarnu’r contract”. Felly, nid ydym yn ystyried bod angen diwygiad.

Pwynt Craffu Technegol 3:                                     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod Drafftio Deddfau i Gymru (“DDiG”) ym mharagraff 6.15(8) yn disgrifio senario lle y “Gall rheoliad, rheol neu erthygl, neu baragraff wedi ei rifo (1), (2) etc, hefyd gynnwys rhestr o ddiffiniadau heb rifau. Mae rhestrau o’r math hwn yn gweithio yn yr un modd mewn offerynnau statudol ag mewn Deddfau”. Y paragraff perthnasol yn DDiG sy’n delio â Deddfau yw paragraff 6.13(7), sy’n datgan y “Gall adran neu is-adran hefyd gynnwys rhestr o ddiffiniadau heb rifau. Cyfeiriwch at ddiffiniad o’r fath fel “y diffiniad o x”. Gall diffiniad heb rif gynnwys paragraffau (a) (b), (c) etc. a all gynnwys is-baragraffau (i), (ii) (iii) etc.”

Fodd bynnag, mae paragraff 6.12 o DDiG hefyd yn datgan yn eglur bod “is-adran o baragraff bob amser yn is-baragraff”. Ym mhob darpariaeth y cyfeirir ati ceir is-adran o baragraff. Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod teilyngdod y pwynt technegol a godwyd, at ei gilydd nid ydym yn bwriadu gwneud unrhyw ddiwygiad.

Pwynt Craffu Technegol 4:                                     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt a godwyd ac yn cytuno bod anghysondeb yn y testun Cymraeg. Nodir nad oes llawer o wahaniaeth mewn ystyr, os o gwbl, rhwng yr ymadroddion “lleiaf” a “bach iawn” gan fod y ddau ymadrodd yn cyfleu’n gywir ystyr bwriadedig “minimal”. Mae ystyr “incidental” yn llai penodol, ac mae “ansylweddol” ac “achlysurol” ill dau’n cyfleu’n gywir agweddau ar yr ystyr. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu delio â hyn fel cywiriad cyn gwneud y Rheoliadau fel yr amlinellir yn y tabl isod, er cysondeb.

Pwynt Craffu Technegol 5:                                     Mae rheoliad 45F wedi ei ddeddfu’n benodol yn unol â pharagraff 3(2)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023, felly mae’n eglur mai dim ond yr ystyr yn y paragraff hwnnw a all fod i “trefniant llorweddol”.

Ymhellach, rydym yn nodi paragraff 4.2(2) o DDiG, ac yn cytuno ag ef: “Ni ddylid cynnwys diffiniad oni fydd yn helpu eglurder neu sicrwydd... os yw’n amlwg o’r cyd-destun at beth y mae’r term yn cyfeirio, ni ddylai fod angen diffiniad”. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu diffinio trefniant llorweddol yn y Rheoliadau hyn.

Pwynt Craffu Technegol 6:                                     Mae rheoliad 48F(8) yn eglur mai ystyr “y trefniant” yw trefniant llorweddol. Cyflawnir hyn drwy gyfeirio at baragraffau (2) i (7) sy’n ei ragflaenu ac sy’n cyfeirio at drefniadau llorweddol, ac yn ail drwy gyfeirio wedyn at baragraff 3(2)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023 sydd hefyd yn cyfeirio at drefniadau yn ogystal â threfniadau llorweddol. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru yn credu bod angen unrhyw ddiwygiad i’r ddarpariaeth hon ac mae’n credu ei bod yn gwbl gyson â’r derminoleg a ddefnyddiwyd yn y pŵer galluogi.

Pwynt Craffu Technegol 7:                                     Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod geiriad y diffiniad o “ad-drefnu” yn rheoliad 45F(9) yn eglur yn union oherwydd y cyfeiriadau blaenorol at “trefniadau llorweddol” a gynhwysir yn y diffiniad, ac felly nad oes angen unrhyw ddiwygiad.

Pwynt Craffu Technegol 8:                                     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt hwn ac yn cytuno ei bod yn ymddangos mai gwall teipograffyddol yn y testun Saesneg yw hyn. O ystyried ei fod yn wall teipograffyddol amlwg nad yw’n effeithio ar yr ystyr yn ei hanfod, rydym yn bwriadu delio â hyn fel cywiriad cyn gwneud y Rheoliadau fel yr amlinellir yn y tabl isod.

 

 

CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

Rheoliadau Caffael (Cymru) (Diwygio) 2025

The Procurement (Wales) (Amendment) Regulations 2025

Dylid newid yr ymadrodd “heblaw newid lleiaf neu achlysurol” a ddefnyddir yn rheoliad 45E(9) o “heblaw newid lleiaf neu achlysurol” i “heblaw newid bach iawn neu ansylweddol”.

 

Dd/G

Dd/G

Yn y diffiniad o “relevant period” yn rheoliad 3(4) a rheoliad newydd 45F(9) yn (b) bydd y geiriau a ganlyn yn cael eu hepgor: “of the preparation”.

Bydd mân faterion fel fformatio a gwallau teipograffyddol yn cael eu cywiro, a mân newidiadau yn cael eu gwneud i’r nodyn esboniadol a’r troednodiadau, cyn gwneud y Rheoliadau.